Wcráin: A yw cymunedau ffydd yng Nghymru yn gwneud digon?

Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a gynhaliwyd ar-lein drwy Zoom

Dydd Mercher 4 Mai 2022, 12:00 - 13:15

Yn bresennol:

1.      Aled Edwards, Cytûn (cyflwynydd)

2.      Ali Ussery, Link International (cyflwynydd)

3.      Altaf Hussain, AS Gorllewin De Cymru

4.      Bonnie Williams, Cyfiawnder Tai Cymru

5.      Carwyn Graves, Undeb Bedyddwyr Cymru

6.      Carys Moseley, Swyddog Cyswllt Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru

7.      Chris Carling

8.      Christine Abbas, Cyngor Baha'i Cymru

9.      Colin Harris

10.  Curtis Shea

11.  Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd (cadeirydd)

12.  David Oliver, Eglwys y Ddinas, Caerdydd

13.  Jim Stewart (cofnodwr)

14.  Katie McColgan, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

15.  Laura Purves, Uwch Swyddog Ymateb Brys yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD) (cyflwynydd)

16.  Louise Abraham, CAFOD

17.  Mari McNeill, Cymorth Cristnogol

18.  Mavis Harris

19.  Mike Hedges, AS Dwyrain Abertawe

20.  Nathan Sadler, Cynghrair Efengylaidd Cymru

21.  Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru

22.  Siva Sivapalan, Cyngor Hindŵaidd Cymru

23.  Stephen Lodwick

24.  Therese Warwick

25.  Tim Hall, Link International

26.  Zuzka Hilton (Polisi Cyfiawnder, Swyddfa’r Prif Weinidog)

 

Ymddiheuriadau

1.      Ainsley Griffiths, yr Eglwys yng Nghymru

2.      David-Lewis Barker, y gymuned Gatholig

3.      Dominic de Souza, Eglwys y Ddinas, Caerdydd

4.      Y Tad Deiniol, y gymuned Uniongred

5.      Gethin Rhys, Cytûn

6.      Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru

7.      Sasha Perriam, Cytûn

8.      Simon Lloyd, Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru

 

Agenda

1. Croeso a diweddariadau

Croesawodd Darren Millar bawb i’r cyfarfod.

Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y llythyr cadarnhaol iawn a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn canmol gwaith Cyfiawnder Tai Cymru. Anfonwyd y llythyr hwn mewn ymateb i lythyr yr oedd Darren wedi’i ysgrifennu fel cam gweithredu yn deillio o gyfarfod diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd, pan gafwyd cyflwyniad gan Bonnie Williams o Gyfiawnder Tai Cymru.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau Gorffennaf. Bydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar bererindod yng Nghymru, a’r manteision cysylltiedig i unigolion ac i economi Cymru.

Nododd Darren ei ddiolch i David Emery o Fyddin yr Iachawdwriaeth am ei gyfraniad i fywyd y Senedd. David oedd y Caplan cyntaf i Aelodau’r Senedd ac mae wedi ymddeol o’r swydd hon yn ddiweddar.

2. Cyflwyniadau

Cyflwynodd Darren y tri chyflwynydd, sef Laura Purves, Ali Ussery ac Aled Edwards, a siaradodd am 5 munud yr un.

Laura Purves, CAFOD

·         Mae Cymru wedi bod yn hael iawn:

·         Mae cymuned Gatholig Cymru wedi codi £56,000 ar gyfer apêl Ddyngarol CAFOD ar gyfer Wcráin

·         Mae DEC Cymru wedi codi £12 miliwn

·         Mae CAFOD wedi bod yn cefnogi Caritas ac asiantaethau ffydd eraill yn Wcráin mewn ffyrdd ariannol a thechnegol

Ali Ussery, Link International

Cysylltodd Ali â Tim Hall, Cyfarwyddwr y DU ar gyfer Link International, ar ôl i'r rhyfel ddechrau. Roedd gweledigaeth Tim yn seiliedig ar rwydweithio a rhannu gwybodaeth drwy ddatblygu canolfannau cymunedol wrth i Gymru ddechrau croesawu ffoaduriaid o Wcráin. Mae gan Ali 30 mlynedd o brofiad o weithio yn nwyrain Ewrop ym maes cymorth a datblygu.

Dechreuodd hi a Tim gael sgyrsiau â 6 awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eglwysi, cynghorau gwirfoddol a grwpiau eraill yr oedd modd eu casglu ynghyd.

Maent yn canolbwyntio ar hyfforddiant, sesiynau gwybodaeth a dod â phobl at ei gilydd i drafod gofal wedi'i lywio gan drawma, yn ogystal â materion o ran iaith a materion diwylliannol. Maent ar fin cynnal y cyfarfod cyntaf ar gyfer y ffoaduriaid o Wcráin eu hunain, gan gynnig bwyd a gweithgareddau.

Dyma’r datganiad o genhadaeth Link International: “To create a better everyday life for the many people from Ukraine who are settled in North Wales by mobilising the power of volunteers and the generosity of donors.”

Diolchodd Darren i Link International am gynorthwyo’r unigolion a gyfeiriwyd atynt ganddo.

Aled Edwards, Cytûn

Roedd llawer i’w ddysgu o’r profiad ym Mhenalun yn Sir Benfro, lle cafodd ceiswyr lloches eu lleoli ychydig yn ôl. Bu Cytûn yn gweithio gyda Rob James o’r Gynghrair Efengylaidd, a arweiniodd dîm bugeiliol rhyng-ffydd. Buont yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid eraill ym meysydd iechyd, addysg a phlismona. Aeth Cytûn ati i ddod â phobl ynghyd i drafod materion perthnasol a sicrhau eu bod yn gallu darparu pethau fel cyswllt diwifr, Beiblau a gofal bugeiliol. Er mawr syndod iddynt, roedd y mwyafrif o’r dynion ym Mhenalun yn Gristnogion, yn sicr ar rai adegau. Roedd hynny’n ddiddorol gan eu bod wedi disgwyl cymunedau Mwslimaidd yn bennaf.

Pan ddatblygodd y sefyllfa yn Afghanistan yn 2020, bu Cytûn yn gweithio'n agos gyda'r Urdd. Gwnaethant lunio cyfundrefn o ‘lety pontio a mwy’; roedd yr Urdd yn gallu cynnig darpariaeth ychwaneged o ran addysg ac iechyd.

Roedd Cytûn bob amser yn disgwyl y byddai anghenion ffoaduriaid o Wcráin yn wahanol i anghenion grwpiau eraill o geiswyr lloches, felly maent yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar hyn. Mae Cytûn hefyd wedi sefydlu grŵp cymorth bugeiliol. Mae'r rhyfel wedi hollti’r gymuned Gristnogol fyd-eang, yn enwedig y gymuned Uniongred, sy'n golygu bod cymhlethdodau yn wynebu'r ffydd Gristnogol.

3. Trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Darren

Sam Rowlands AS

A oes llawer o wrthwynebiad gan gyrff cyhoeddus o ran y cymorth a ddarperir?

Ali Ussery, Link International

Fel elusen, nid ydym yn wynebu’r un ffiniau sy'n bodoli rhwng sefydliadau statudol.

Tim Hall, Link International

Rwy’n cydymdeimlo â’r awdurdodau lleol. Mae gan rai awdurdodau swyddogion adsefydlu, ond nid yw hyn yn wir am bob awdurdod. Lle bo gan awdurdodau swyddogion sy’n gweithio yn y maes hwn, mae ganddynt fodel i’w ddilyn ar ôl iddynt weithio gyda ffoaduriaid o Afghanistan a Syria yn y gorffennol. Mae hyn wedi bod yn hynod ddefnyddiol. O ran yr awdurdodau hynny sydd heb swyddogion, er enghraifft Conwy, mae'n rhaid iddynt ystyried sut maent am reoli’r materion hyn. Maent yn awyddus i gynnig gwasanaethau ond maent hefyd yn sylweddoli fod bylchau yn eu darpariaeth.

O ran cymorth cymunedol, mae ffiniau’r awdurdodau lleol yn gallu atal pobl rhag dod at ei gilydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Esgobaeth Llanelwy yr Eglwys yng Nghymru wedi bod o gymorth mawr yn hyn o beth gan eu bod yn gweithio ar draws ffiniau’r awdurdodau lleol. Mae'r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn gwneud gwaith arbennig mewn sefyllfa anodd iawn ac mae hyn i’w ganmol.

Aled Edwards, Cytûn

Mae ymgysylltiad gan y sector cyhoeddus yn dda. Weithiau, mae'n rhaid i ni atgoffa pobl ein bod ni, fel sefydliadau ffydd, yn bartneriaid cyfartal ac yn deall materion fel cyfrinachedd. Mae ein gweithgarwch ymgysylltu â phartneriaid fel Hywel Dda a Chyngor Sir Gwynedd wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn bwysig i ni atgoffa llawer o’r sefydliadau hyn fod ganddynt wasanaethau caplaniaeth. Un mater yr ydym yn gyson wyliadwrus ohono yw a ddylai cyrff cyhoeddus barhau i fod yn fodlon i ni fynd atynt fel pobl o ffydd ac nid fel sector crefydd a chred – er mai dyna’r ffordd rydym yn cael ein categoreiddio o dan y gyfraith, sydd hefyd yn rhoi’r hawl i ni ymgysylltu â’r Llywodraeth.

Ali Ussery, Link International – ar fasnachu pobl

Mae canllawiau ynghylch masnachu pobl wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl o Wcráin sy'n cyrraedd y wlad hon. Mae’r sefydliadau rwy’n gweithio iddynt, sef Link International a Haven of Light, wrthi’n llunio sesiwn wybodaeth ac ymwybyddiaeth. Mae menywod a phlant o Wcráin mewn perygl gan eu bod wedi gadael eu gwŷr a’u partneriaid gartref i ffoi o’r wlad. Mae masnachwyr pobl yn brysur wrth y ffiniau a’r llwybrau mudo. Bu cynnydd aruthrol mewn ecsbloetio ar-lein, sy'n cael ei fonitro gan yr OSCE (Organization for Security and Co-operation in Europe). Yng Nghymru, mae’n rhaid i ni rannu’r wybodaeth berthnasol. Gall pobl sy'n cyrraedd o Wcráin fod yn daer am incwm, ac mae’n rhaid i ni ymdrin â gwreiddiau’r broblem, boed hynny’n cam-fanteisio ar weithwyr, cam-fanteisio’n rhywiol, troseddoldeb neu gaethwasanaeth domestig.

Mae yna sefydliadau yn ne Cymru sy'n gweithio yn y maes hwn, fel New Pathways a Bawso. Arweinydd presennol Llywodraeth Cymru ar fasnachu pobl yw Joshua Vuglar, Pennaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Gweithwyr.

Mari McNeill, Cymorth Cristnogol

Wrth ateb y cwestiwn, “A yw cymunedau ffydd Cymru yn gwneud digon?”, mae’n dda gweld rhywfaint o’r darlun ehangach a’r undod sydd rhyngom.

Mae gan Gymorth Cristnogol fandad gan eglwysi Protestannaidd y DU ac Iwerddon. Rydym yn rhan o’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau a grybwyllwyd yn gynharach. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â cholli golwg ar heriau byd-eang eraill, fel tlodi byd-eang.

Aled Edwards, Cytûn

Un maes sy’n peri pryder mewn perthynas â’r sefyllfa yn Wcráin yw gofalu am bobl yn ein cartrefi, gyda phobl yn dod i mewn i deulu. O ran masnachu pobl a diogelu, byddai'n dda gennym wasgu'r botwm “arferol” o ran gweithdrefnau a pholisïau cymunedau ffydd (er enghraifft, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o bolisïau diogelu ein sefydliadau pan fyddwn ar ein pen ein hunain gyda rhywun). Rhaid bod yn ofalus wrth ymdrin â materion diogelu. Hefyd, efallai y bydd teuluoedd sydd wedi croesawu ffoaduriaid yn gweld, ar ôl ychydig, fod tensiynau a bod perthnasau’n chwalu.

Siva Sivapalan, Cyngor Hindŵaidd Cymru

Mae'r gymuned Hindŵaidd yn helpu i fwydo pobl trwy ISKCON.

Tim Hall, Link International

O ran diogelu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi e-gwrs ar-lein. I ni, dyma’r gofyniad sylfaenol a byddem yn annog unrhyw un sydd am gyfrannu yn y maes hwn i gwblhau’r cwrs hwnnw.

O blith awdurdodau lleol, mae’n ymddangos bod cyfradd fethiant o ryw 20 y cant o ran paru ffoaduriaid â theuluoedd, ac un mater brys yr ydym yn ceisio ei godi yng ngogledd Cymru yw banc ail-baru o aelwydydd y gall awdurdodau lleol ymweld â nhw cyn i bobl o Wcráin gyrraedd. Os yw perthynas yn chwalu, byddai hyn yn golygu bod awdurdod lleol eisoes yn gwybod am gartrefi lle gall ail-baru ddigwydd yn gyflym, a bod swyddogion o’r awdurdod lleol wedi ymweld â’r cartrefi hyn ymlaen llaw.

Hefyd, mae’n rhaid i ni gael sgwrs ar wahân sy’n ymateb yn greadigol i’r cwestiwn o ran sut y gall eglwysi gyfrannu oherwydd bod rhai materion ymarferol iawn yn codi – nid ydym yn gwybod beth yn union fydd ei angen, felly os allwn gael amser i rannu gwybodaeth a pharatoi ein timau bugeiliol nawr, byddant yn gallu ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd wrth iddynt godi.

Hiraeth. Rydyn ni wedi bod yn siarad am drawma. Os ydym yn caniatáu i ffoaduriaid o Wcráin ddod at ei gilydd, byddant yn gallu ymdrin â llawer o'r trawma hwn ar y cyd drwy rannu profiadau. Bydd y bobl o Wcráin yn hiraethu am eu mamwlad. Byddai caniatáu iddynt fod gyda'i gilydd yn helpu i leddfu’r trawma hwn a chynyddu llesiant, a byddant yn gallu cynnig cymorth ysbrydol i'w gilydd. Hoffem i'r bobl o Wcráin deimlo mor gartrefol yma eu bod yn teimlo hiraeth dros Gymru pan fyddant yn gallu dychwelyd i Wcráin.

4. Camau gweithredu y cytunwyd arnynt gan y grŵp

Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn beth y gall y Llywodraeth ei wneud i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd rôl swyddogion adsefydlu awdurdodau lleol. A oes modd annog awdurdodau lleol i rannu swyddogion adsefydlu ar draws rhanbarthau?

Ysgrifennu at Weinidog Tai Llywodraeth Cymru i weld sut y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar y safonau a’r camau diogelu sy’n gysylltiedig â chynllun ‘Cartrefi i Wcráin’ Llywodraeth y DU.

Rhannu lincs at wybodaeth am fentrau gwrth-fasnachu a gwrth-gaethwasiaeth ag aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd yn ogystal â lincs at dudalennau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n trafod sut y gall pobl ymateb i'r sefyllfa yn Wcráin.

Darren i archwilio - efallai ar y cyd â’r Fforwm Cymunedau Ffydd - a ellir hwyluso trafodaethau ehangach ynghylch yr ymateb i’r sefyllfa, gyda’r nod o wella’r ymateb hwn a rhannu arfer da.